Luke 24:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phryd na chawsāt y gorph ef, wy a ddaethant gan ddywedyt, welet o hanwynt wythae weledigaeth o Angelion, yr ei a ddywedynt y vot ef yn vyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
daethant gan ddywedyd mai gweledigaeth o angylion a welsent, y rhai a ddywedasant Ei fod yn fyw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a heb gael ei gorff, daethant a dywedyd iddynt weled gweledigaeth o angylion, a ddywedent ei fod ef yn fyw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan na chawsant ei gorff ef, hwy a ddaethant, gan ddywedyd weled ohonynt weledigaeth o angylion, y rhai a ddywedent ei fod ef yn fyw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond doedd y corff ddim yno! Roedden nhw'n dweud eu bod nhw wedi gweld angylion, a bod y rheiny wedi dweud wrthyn nhw fod Iesu'n fyw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a methasant gael ei gorff, ond dychwelsant gan daeru eu bod wedi gweld angylion yn ymddangos, a bod y rheini'n dweud ei fod ef yn fyw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a phan na chawsant ei gorff ef, hwy a ddaethant, gan ddywedyd eu bod hyd y nôd wedi gweled gweledigaeth o Angelion, y rhai sydd yn dywedyd ei fod ef yn fyw.