Luke 24:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddechreawdd o Voysen a’r oll Prophwyti, ac a esponiawð yddwynt yn yr oll Scrythyrae y pethae oedd yn escrivenedic am danaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan ddechreu ar Mosheh a’r holl Brophwydi, dehonglodd iddynt, yn yr holl Ysgrythyrau, y pethau am Dano Ei Hun.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chan ddechrau o Foses a’r holl broffwydi, dehonglodd iddynt yn yr holl ysgrythurau y pethau amdano ef ei hun.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chan ddechrau ar Moses, a'r holl broffwydi, efe a esboniodd iddynt yn yr holl ysgrythurau y pethau amdano ei hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Iesu'n mynd dros bopeth ac yn esbonio iddyn nhw beth roedd Moses a'r proffwydi eraill wedi ei ddweud amdano yn yr ysgrifau sanctaidd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chan ddechrau gyda Moses a'r holl broffwydi, dehonglodd iddynt y pethau a ysgrifennwyd amdano ef ei hun yn yr holl Ysgrythurau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chan ddechreu o Moses ac o'r holl Broffwydi, efe a esboniodd yn drwyadl iddynt yn yr holl Ysgrythyrau y pethau am dano ei hun.