Luke 24:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yð oeddent yn nesay at y dref, lle ydd oeddent yn myned, ac ef a gymerth arnaw vynet ym‐pellach.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A nesasant at y pentref lle yr aent; ac Efe a gymmerth Arno mai pellach yr elai.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daethant yn agos i’r pentref lle’r oeddent yn mynd, a chymerth ef arno ei fod yn mynd ymhellach.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oeddynt yn nesáu i'r dref lle yr oeddynt yn myned: ac yntau a gymerth arno ei fod yn myned ymhellach.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedden nhw bron â chyrraedd pen y daith, dyma Iesu'n dweud ei fod e'n mynd yn ei flaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddynt nesu at y pentref yr oeddent ar eu ffordd iddo, cymerodd ef arno ei fod yn mynd ymhellach.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a nesasant i'r pentref lle yr oeddynt yn myned: ac efe a ymddangosodd fel pe byddai yn myned yn mhellach.