Luke 24:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr wy a ei cympellesont ef, can ddywedyt, Aros gyd a ni: can ys y mae hi yn hwyrhay, a’r dydd wedy cerddet. Ac ef aeth y mewn y aros gyd ac wynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chymhellasant Ef, gan ddywedyd, Aros gyda ni, canys hwyrhau y mae, ac ar ddarfod weithian y mae’r dydd: ac aeth i mewn i aros gyda hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gorfodasant ef, gan ddywedyd, “Aros gyda ni; achos y mae’n mynd yn hwyr, a’r dydd sy bellach wedi pallu.” Ac aeth i mewn i aros gyda hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a'i cymellasant ef, gan ddywedyd, Aros gyda ni; canys y mae hi yn hwyrhau, a'r dydd yn darfod. Ac efe a aeth i mewn i aros gyda hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma nhw'n erfyn yn daer arno: “Tyrd i aros gyda ni dros nos; mae'n mynd yn hwyr.” Felly aeth i aros gyda nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond meddent wrtho, gan bwyso arno, "Aros gyda ni, oherwydd y mae hi'n nosi, a'r dydd yn dirwyn i ben." Yna aeth i mewn i aros gyda hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a'i cymhellasant ef yn daer, gan ddywedyd, Aros gyd â ni: canys y mae hi yn hwyrhâu, a'r dydd weithian wedi darfod: ac efe a aeth i mewn i aros gyd â hwynt.