Luke 24:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e ddarvu, val ydd oedd ef yn eistedd ar y bwrð gyd ac wynt, e gymerth y bara, ac a ddiolchawð, ac ei torawdd, ac ei rhoes yddwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu, wrth led-orwedd o Hono gyda hwynt, wedi cymmeryd bara y bendithiodd, ac wedi torri y rhannodd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddo eistedd gyda hwynt, cymerodd y bara, a’i fendithio, a’i dorri a’i roddi iddynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A darfu, ac efe yn eistedd gyda hwynt, efe a gymerodd fara, ac a'i bendithiodd, ac a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedden nhw'n eistedd wrth y bwrdd i fwyta, cymerodd dorth o fara, ac adrodd gweddi o ddiolch cyn ei thorri a'i rhannu iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi cymryd ei le wrth y bwrdd gyda hwy, cymerodd y bara a bendithio, a'i dorri a'i roi iddynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu, fel yr oedd efe yn eistedd i lawr i fwyta gyd â hwynt, efe a gymmerodd y bara, ac a'i bendithiodd, ac a'i torodd, ac a roddodd iddynt.