Luke 24:32 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy a ddywedesont wrthyn ei gylydd, anyd oedd ein calonae yn llosci ynam, tra ytoedd ef yn ymddiddan a ni ar y ffordd, a’ phan oeð e yn agory i ni yr Scrythurae?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedasant wrth eu gilydd, Onid oedd y’n calon yn llosgi ynom, tra y llefarai wrthym ar y ffordd, a thra yr agorai i ni yr Ysgrythyrau?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedasant wrth ei gilydd, “Onid oedd ein calon yn llosgi ynom, pan oedd yn llefaru wrthym ar y ffordd, pan oedd yn agor yr ysgrythurau inni?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Onid oedd ein calon ni yn llosgi ynom tra ydoedd efe yn ymddiddan â ni ar y ffordd, a thra ydoedd efe yn agoryd i ni yr ysgrythurau?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Roedden ni'n teimlo rhyw wefr, fel petai'n calonnau ni ar dân, wrth iddo siarad â ni ar y ffordd ac esbonio beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddent wrth ei gilydd, "Onid oedd ein calonnau ar dn ynom wrth iddo siarad ni ar y ffordd, pan oedd yn egluro'r Ysgrythurau inni?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a ddywedasant wrth eu gilydd, Onid oedd ein calon yn llosgi ynom fel yr oedd efe yn llefaru wrthym ar y ffordd pan yr oedd efe yn llwyr-agoryd i ni yr Ysgrythyrau?