Luke 24:35 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y manegesont y pethae a vvnaethesit ar y fforð, a’ ph’odd ydd adnabysent ef ar doriat y bara. Yr Euangel die Mawrth Pasc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwythau a fynegasant y pethau ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth dorriad y bara.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac adroddasant hwythau beth a fu ar y ffordd, a’r modd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth doriad y bara.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwythau a adroddasant y pethau a wnaethid ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth doriad y bara.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r ddau yn dweud beth oedd wedi digwydd iddyn nhw ar eu taith, a sut wnaethon nhw sylweddoli pwy oedd Iesu wrth iddo dorri'r bara.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Adroddasant hwythau yr hanes am eu taith, ac fel yr oeddent wedi ei adnabod ef ar doriad y bara.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy eu hunain oeddynt yn adrodd y pethau a ddygwyddasant ar y ffordd, a'r modd y daeth efe yn adnabyddus iddynt yn nhoriad y bara.