Luke 24:37 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A braw ac ofn a vu arnynt, gan ddybieit yddwynt weled yspryt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi brawychu, a myned yn ddychrynedig, tybiasant mai yspryd a welent;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dychrynu a brawychu a wnaethant, a thybied mai ysbryd a welent.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwythau, wedi brawychu ac ofni, a dybiasant weled ohonynt ysbryd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw wedi cael braw. Roedden nhw'n meddwl eu bod nhw'n gweld ysbryd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn eu dychryn a'u hofn, yr oeddent yn tybied eu bod yn gweld ysbryd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hwythau, wedi brawychu ac yn llawn ofn, oeddynt yn tybied eu bod yn craffu ar yspryd.