Luke 24:39 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Welwch vy‐dwylo a’m traet, mae myvy yw ef: teimlwch vi, a’ gwelwch: can nad oes i yspryt gnawt ac escyrn, mal y gwelwch vot i mi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwelwch Fy nwylaw ac Fy nhraed, mai Myfi Fy Hun yw. Teimlwch Fi, a gwelwch, canys yspryd nid yw a chanddo gnawd ac esgyrn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwelwch fy nwylo a’m traed, mai myfi fy hun ydyw; teimlwch fi a gwelwch, canys nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn, fel y gwelwch fod gennyf i.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Edrychwch fy nwylo a'm traed, mai myfi fy hun ydyw: teimlwch fi, a gwelwch: canys nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn, fel y gwelwch fod gennyf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Edrychwch ar fy nwylo a'm traed i. Fi sydd yma go iawn! Cyffyrddwch fi. Byddwch chi'n gweld wedyn mai dim ysbryd ydw i. Does gan ysbryd ddim corff ag esgyrn fel hyn!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelwch fy nwylo a'm traed; myfi yw, myfi fy hun. Cyffyrddwch mi a gwelwch, oherwydd nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn fel y canfyddwch fod gennyf fi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwelwch fy nwylaw a'm traed, mai myfi fy hun ydyw: teimlwch fi, a gwelwch: nid oes gan yspryd gnawd ac esgyrn fel y daliwch sylw fod genyf fi.