Luke 24:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e ddarvu, ac wynt mewn irdang gan hyn, wely ddau wr yn ddysymwth a sefent wrth‐ynt mewn gwiscoedd dysclaer.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu pan ddyrysid hwy am hyn, wele dau ŵr a safent yn eu hymyl mewn gwisg felltenaidd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A digwyddodd, pan oeddynt mewn penbleth ynghylch hyn, dyma ddau ŵr yn sefyll gerllaw iddynt mewn gwisg lachar.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu, a hwy yn petruso am y peth hwn, wele, dau ŵr a safodd yn eu hymyl mewn gwisgoedd disglair.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw wedi drysu'n lân, ond yna'n sydyn dyma ddau ddyn mewn dillad llachar yn sefyll wrth eu hymyl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna, a hwythau mewn penbleth ynglu375?n hyn, dyma ddau ddyn yn ymddangos iddynt mewn gwisgoedd llachar.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu, a hwy mewn dyryswch am y peth hwn, wele, dau wr a safasant yn sydyn gerllaw iddynt mewn gwisg lachar.