Luke 24:41 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wyntwy eto eb gredy gan lawenydd, ac yn rhyveddy, ef a ddyvot wrthwynt, A oes genwch yma ddim or llyniaeth?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy etto yn anghoelio gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, dywedodd wrthynt, A oes genych yma beth i’w fwytta?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac a hwy eto’n methu â chredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, fe ddywedodd wrthynt, “Oes gennych chwi fwyd yma?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a hwy eto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, A oes gennych chwi yma ddim bwyd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw'n teimlo rhyw gymysgedd o lawenydd a syfrdandod, ac yn dal i fethu credu'r peth. Felly gofynnodd Iesu iddyn nhw, “Oes gynnoch chi rywbeth i'w fwyta yma?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chan eu bod yn eu llawenydd yn dal i wrthod credu ac yn rhyfeddu, meddai wrthynt, "A oes gennych rywbeth i'w fwyta yma?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac a hwy eto heb gredu o lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, A oes genych yma beth a ellir fwyta?