Luke 24:44 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyvot wrthwynt, Ll’yma’r gairiae a ddywedais wrthych, tra oeddwn eto gyd a chwi, nid amgen gorvot cyflawny yr oll pethae a yscrivenwyt am danaf yn‐ Deddyf Moysen, ac yn y Prophwyti, a’r Psalme.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrthynt, Y rhai hyn yw Fy ngeiriau, y rhai a leferais wrthych tra etto ynghyda chwi, fod rhaid eu cyflawni o’r holl bethau a ’sgrifenwyd yn Nghyfraith Mosheh a’r Prophwydi a’r Psalmau am Danaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd wrthynt, “Hyn oedd ystyr fy ngeiriau a leferais wrthych pan oeddwn eto gyda chwi, fod yn rhaid cyflawni popeth a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses a’r proffwydi a’r salmau amdanaf i.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dyma'r geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn eto gyda chwi, bod yn rhaid cyflawni pob peth a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses, a'r proffwydi, a'r salmau, amdanaf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dwedodd wrthyn nhw, “Pan o'n i gyda chi, dwedais fod rhaid i'r cwbl ysgrifennodd Moses amdana i yn y Gyfraith, a beth sydd yn llyfrau'r Proffwydi a'r Salmau, ddod yn wir.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrthynt, "Dyma ystyr fy ngeiriau a leferais wrthych pan oeddwn eto gyda chwi: ei bod yn rhaid i bob peth gael ei gyflawni sy'n ysgrifenedig amdanaf yng Nghyfraith Moses a'r proffwydi a'r salmau."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dyma fy ngeiriau a ddywedais i chwi, tra yr oeddwn eto gyd â chwi, bod yn rhaid cyflawnu pob peth sydd wedi ei ysgrifenu yn Nghyfraith Moses, a'r Proffwydi, a'r Salmau, am danaf fi.