Luke 24:47 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ bot precethy ediveirwch a’ maddeuant pechatae yn y Enw ef ymplith y Cenetloedd oll, can ddechrae yn‐Caerusalem.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac y pregethid yn Ei enw edifeirwch a maddeuant pechodau, i’r holl genhedloedd, gan ddechreu ag Ierwshalem.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a bod cyhoeddi yn ei enw ef edifeirwch er maddeuant pechodau i’r holl genhedloedd — gan ddechrau o Gaersalem.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef ymhlith yr holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid cyhoeddi'r neges yma yn Jerwsalem a thrwy'r gwledydd i gyd: fod pobl i droi cefn ar eu pechod a bod Duw'n barod i faddau iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a bod edifeirwch, yn foddion maddeuant pechodau, i'w gyhoeddi yn ei enw ef i'r holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerwsalem.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a bod edifeirwch a maddeuant pechodau i gael eu pregethu ar sail ei enw ef i'r holl genedloedd, gan ddechreu o Jerusalem.