Luke 24:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac val ydd oeddent yn ofni, ac yn gestwng ei hwynebae tu ar ddaiar, y dywed e sont wrth‐wynt, Paam y ceisiwch y byw, ym‐plith y meirw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac a hwy wedi eu brawychu, ac yn gogwyddo eu hwynebau tua’r ddaear, dywedasant wrthynt, Paham y ceisiwch yr Hwn sydd fyw ym mysg y meirw?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac a hwythau wedi brawychu ac yn gostwng eu hwynebau tua’r ddaear, dywedasant wrthynt, “Paham yr ydych yn ceisio’r byw ymysg y meirw?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt ofni, a gostwng eu hwynebau tua'r ddaear, hwy a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn ceisio y byw ymysg y meirw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y gwragedd wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n plygu a'u hwynebau i lawr o'u blaenau. Yna dyma'r dynion yn gofyn iddyn nhw, “Pam dych chi'n edrych mewn bedd am rywun sy'n fyw?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth ofn arnynt, a phlygasant eu hwynebau tua'r ddaear. Meddai'r dynion wrthynt, "Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy'n fyw?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddynt ddychrynu, a gostwng eu hwynebau i'r ddaear, hwy a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn ceisio yr hwn sydd yn fyw yn mysg y meirw? Nid yw yma: ond efe a gyfododd: