Luke 24:50 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ef y duc hwy allan i Bethania, ac ef a gyuodes eu ddwylo, ac y bendithiawdd hwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac arweiniodd hwynt allan hyd at Bethania; ac wedi codi Ei ddwylaw, bendithiodd hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe’u dug hwynt allan hyd yn ymyl Bethania, a chododd ei ddwylo, a’u bendithio hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a'u dug hwynt allan hyd ym Methania; ac a gododd ei ddwylo, ac a'u bendithiodd hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Iesu'n mynd â nhw allan i ymyl Bethania. Wrth iddo godi ei ddwylo i'w bendithio nhw
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth hwy allan i gyffiniau Bethania. Yna cododd ei ddwylo a'u bendithio.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a'u harweiniodd hwynt allan hyd eu bod gyferbyn a Bethania, ac efe a gododd ei ddwylaw, ac a'u bendithiodd hwynt.