Luke 24:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan ddywedyt, davv y bydd dir rhoðy Map y dyn yn‐dwylo dynion pechaturus, a’ ei chael grogi, a’r trydydd dyð at cyuodi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac Efe etto yn Galilea, gan ddywedyd fod i Fab y Dyn raid Ei draddodi i ddwylaw dynion pechadurus, ac Ei groes-hoelio, ac, ar y trydydd dydd, adgyfodi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ddywedyd am Fab y dyn fod yn rhaid ei draddodi i ddwylo dynion pechadurus, a’i groeshoelio, a’r trydydd dydd atgyfodi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd, Rhaid yw rhoi Mab y dyn yn nwylo dynion pechadurus, a'i groeshoelio, a'r trydydd dydd atgyfodi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd y byddai e, Mab y Dyn, yn cael ei drosglwyddo i afael dynion pechadurus fyddai'n ei groeshoelio; ond yna ddeuddydd wedyn byddai e'n dod yn ôl yn fyw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gan ddweud ei bod yn rhaid i Fab y Dyn gael ei draddodi i ddwylo pechaduriaid, a'i groeshoelio, a'r trydydd dydd atgyfodi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ddywedyd, Rhaid yw i Fab y Dyn gael ei draddodi i ddwylaw dynion pechadurus, a'i groeshoelio, a'r trydydd dydd adgyfodi.