Luke 3:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
SEf yn y pem p thecvet vlwydd yn o deyrnas Tiberius Caisar, ac a P h ontius Pilatus yn llywiawdr Iudaia, a’ Herod yn Tetrarch Galilaia, a’ ei vrawt Philip yn Tetrarch Ituraia, a ’gwlat Trachenitis, a’ Lysanias yn Tetrarch Abilene,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn y bymthegfed flwyddyn o ymherodraeth Tiberius Cesar, Pontius Pilat yn rhaglaw Iwdea, a Herod yn detrarch a Philip ei frawd yn detrarch Itwrea a gwlad Trachonitis,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn y bymthegfed flwyddyn o lywodraeth Tiberius Cesar, pan oedd Pontius Pilat yn, llywodraethu Iwdea, a Herod yn detrarch Galilea, a Phylip ei frawd yn detrarch gwlad Itwrea a Thrachonitis, a Lysanias yn detrarch Abilene,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn y bymthegfed flwyddyn o ymerodraeth Tiberius Cesar, a Phontius Peilat yn rhaglaw Jwdea, a Herod yn detrarch Galilea, a'i frawd Philip yn detrarch Iturea a gwlad Trachonitis, a Lysanias yn detrarch Abilene,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
[1-2] Flynyddoedd yn ddiweddarach, tra roedd yn byw yn yr anialwch, cafodd Ioan, mab Sachareias, neges gan Dduw. Erbyn hynny roedd Tiberiws Cesar wedi bod yn teyrnasu ers pymtheng mlynedd; Pontius Peilat oedd llywodraethwr Jwdea, Herod yn is-lywodraethwr ar Galilea, ei frawd Philip ar Itwrea a Trachonitis, a Lysanias ar Abilene; ac roedd Annas a Caiaffas yn archoffeiriaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad Tiberius Cesar, pan oedd Pontius Pilat yn llywodraethu ar Jwdea, a Herod yn dywysog Galilea, a phan oedd Philip ei frawd yn dywysog tiriogaeth Itwrea a Trachonitis, a Lysanias yn dywysog Abilene,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn y bymthegfed flwyddyn o Deyrnasiad Tiberius Cesar, a Phontius Pilat yn Llywodraethwr Judea, a Herod yn Detrarch Galilea, a Philip ei Frawd yn Detrarch gwlad Iturea a Trachonitis, a Lysanias yn Detrarch Abilene,