Luke 3:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a atepawdd ac a ddyuot wrthynt, Hwn ’sy iddo ðwy bais, cyfranet a’ hwn nid oes iddo yr vn: a’ hwn ’sy berchen bwyt, gwnaet yr vn ffynyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, dywedodd wrthynt, Yr hwn sydd a chanddo ddwy bais, cyfranned â’r hwn nad oes ganddo; a’r hwn sydd a chanddo fwyd, yn y cyffelyb fodd gwnaed efe.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebai yntau iddynt, “Y neb sydd ganddo ddwy grysbais, rhanned â’r sawl sydd heb yr un, a’r neb sydd ganddo fwyd, gwnaed yr un modd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo ddwy bais, rhodded i'r neb sydd heb yr un; a'r neb sydd ganddo fwyd, gwnaed yr un modd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Ioan, “Os oes gynnoch chi ddwy gôt, rhowch un ohonyn nhw i berson tlawd sydd heb un o gwbl. A gwnewch yr un fath gyda bwyd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebai yntau, "Rhaid i'r sawl sydd ganddo ddau grys eu rhannu ag unrhyw un sydd heb grys, a rhaid i'r sawl sydd ganddo fwyd wneud yr un peth."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd ganddo ddwy o is‐wisgoedd, bydded iddo ranu â'r hwn nid oes ganddo, a'r hwn sydd ganddo fwyd, gwneled yr un modd.