Luke 3:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y daeth y Publicanot hefyt y’w betyddio, ac a ddywetsont wrthaw, Athro, pa beth a wnawn ni?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daeth hefyd dreth-gymmerwyr i’w bedyddio, a dywedasant wrtho, Athraw, pa beth a wnawn?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth hefyd drethwyr i’w bedyddio, a dywedasant wrtho, “Athro, beth a wnawn?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r publicanod hefyd a ddaethant i'w bedyddio, ac a ddywedasant wrtho, Athro, beth a wnawn ni?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd rhai oedd yn casglu trethi i'r Rhufeiniaid yn dod i gael eu bedyddio hefyd, a dyma nhw'n gofyn iddo, “Beth ddylen ni ei wneud, athro?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth casglwyr trethi hefyd i'w bedyddio, ac meddent wrtho, "Athro, beth a wnawn ni?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A daeth hefyd y Treth‐gasglwyr i'w bedyddio, ac a ddywedasant wrtho, Athraw, Pa beth a wnawn ni?