Luke 3:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyuot wrthynt, Na chaisiwch ddim mwy nag a ’osodwyt y chwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ddim mwy na’r hyn a osodwyd i chwi, na ddirgeisiwch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau wrthynt, “Na chodwch ddim mwy na’r dreth osodedig.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na cheisiwch ddim mwy nag sydd wedi ei osod i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Peidio casglu mwy o arian nag y dylech chi,” meddai wrthyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai yntau wrthynt, "Peidiwch mynnu dim mwy na'r swm a bennwyd ichwi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na chodwch fwy na'r hyn sydd wedi ei drefnu i chwi.