Luke 3:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r milwyr wythe a ymofynesont ac ef, gan ddywedyt, A’ pha beth a wnawn ni neu? Ac ef a ddyuot wrthynt, Na vyddwch draws wrth nep, ac na cham‐achwynwch ar ueb, a’ byddwch vod d lawn ich cyflog e.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ymofyn ag ef a wnaeth y rhai yn milwrio, gan ddywedyd, Pa beth a wnawn ninnau hefyd? A dywedodd wrthynt, Na fyddwch draws wrth neb, ac na cham-achwynwch: a byddwch foddlawn i’ch cyflogau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gofynnai milwyr hefyd iddo, “Beth a wnawn ninnau?” Dywedodd yntau wrthynt, “Na yrrwch ofn ar neb ac na chamachwynwch; a byddwch fodlon ar eich cyflogau.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r milwyr hefyd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, A pha beth a wnawn ninnau? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na fyddwch draws wrth neb, ac na cham-achwynwch ar neb; a byddwch fodlon i'ch cyflogau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“A beth ddylen ni ei wneud?” meddai rhyw filwyr ddaeth ato. “Peidiwch dwyn arian oddi ar bobl”, oedd ateb Ioan iddyn nhw, “a pheidiwch cyhuddo pobl ar gam er mwyn gwneud arian. Byddwch yn fodlon ar eich cyflog.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddai dynion ar wasanaeth milwrol hefyd yn gofyn iddo, "Beth a wnawn ninnau?" Meddai wrthynt, "Peidiwch ag ysbeilio neb trwy drais neu gamgyhuddiad, ond byddwch fodlon ar eich cyflog."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A milwyr hefyd a ofynent iddo, gan ddywedyd, A pha beth a wnawn ninau? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na fynwch arian oddiwrth neb trwy ei ddychrynu, na cham‐gyhuddwch, a byddwch foddlawn ar eich cyflogau.