Luke 3:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mal ydd oedd y popul yn dysgwyl, a’ phavvp oll yn synveddilied yn ei calonoe am Ioan, ai any d oedd ef y Christ,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth ddisgwyl o’r bobl, ac ymresymmu, bawb o honynt yn eu calonnau am Ioan, ai efe, ysgatfydd, oedd y Crist,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r bobl yn disgwyl, a phawb yn ymresymu yn eu calonnau ynghylch Ioan, ai ef tybed oedd y Crist,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oedd y bobl yn disgwyl, a phawb yn meddylied yn eu calonnau am Ioan, ai efe oedd y Crist;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pobl yn teimlo fod rhywbeth mawr ar fin digwydd, a phawb yn dechrau meddwl tybed ai Ioan oedd y Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan fod y bobl yn disgwyl, a phawb yn ystyried yn ei galon tybed ai Ioan oedd y Meseia,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr oedd y bobl yn dysgwyl, a phawb yn ymresymu yn eu calonau ynghylch Ioan, rhag ofn mai efe yw y Crist,