Luke 3:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ydd atepai Ioan, ac y dywedai wrthynt oll, My vi yn ddiau ’sy yn ych betyddiaw a dw f r, anid y mae vn cryfach na my vi, yn dyuot, yr hwn nid wyf dailwng y ddatot carreu ei escidi e: efe ach betyddia ar Yspryt glan, ac a than.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
attebodd Ioan i bawb o honynt, gan ddywedyd, Myfi, yn wir, â dwfr yr wyf yn eich bedyddio chwi, ond dyfod y mae un cryfach na myfi, i’r Hwn nid wyf deilwng i ddattod carrai Ei esgidiau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
atebodd Ioan iddynt oll, “Myfi yn wir sydd yn eich bedyddio â dwfr; ond y mae fy nghryfach yn dyfod, un nad wyf deilwng i ddatod carrai ei esgidiau; ef a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân ac â thân;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ioan a atebodd, gan ddywedyd wrthynt oll, Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr: ond y mae un cryfach na myfi yn dyfod, yr hwn nid wyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgidiau: efe a'ch bedyddia chwi â'r Ysbryd Glân, ac â thân.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond ateb Ioan iddyn nhw i gyd oedd, “Dŵr dw i'n ei ddefnyddio i'ch bedyddio chi. Ond mae un llawer mwy grymus na fi yn dod yn fuan — rhywun sydd mor bwysig, fyddwn i ddim yn deilwng o fod yn gaethwas sy'n datod carrai ei sandalau hyd yn oed! Bydd hwnnw yn eich bedyddio chi gyda'r Ysbryd Glân a gyda thân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
dywedodd ef wrth bawb: "Yr wyf fi yn eich bedyddio du373?r; ond y mae un cryfach na mi yn dod. Nid wyf fi'n deilwng i ddatod carrai ei sandalau ef. Bydd ef yn eich bedyddio 'r Ysbryd Gln ac thn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ioan a atebodd, gan ddywedyd wrthynt bawb oll, Yr wyf fi yn wir yn eich bedyddio chwi â dwfr; ond y mae Un Cryfach na myfi yn dyfod, yr hwn nid ydwyf fi deilwng i ddatod carai ei sandalau: efe ei hun a'ch bedyddia chwi yn yr Yspryd Glân ac yn tân.