Luke 3:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr vn ’sy aei ’o a gr yn y law, ac ef a lwyrlanha ei lawr, ac a gascl ei ’wenith y’w escupawr, a’r vs a lysc ef a’ than an d iffoddadwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Efe a’ch bedyddia chwi â’r Yspryd Glân ac â thân: gwyntyll yr Hwn sydd yn Ei law i lwyr-lanhau Ei lawr-dynu, ac i gasglu’r gwenith i’w ysgubor; ond yr ûs a lwyr-lysg Efe â thân anniffoddadwy.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a’i wyntyll sydd yn ei law, i lwyr-lanhau ei lawr dyrnu, ac i gasglu’r ŷd i’w ysgubor, ond yr us a lysg ef â thân anniffoddadwy.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl y gwenith i'w ysgubor; ond yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae ganddo fforch nithio yn ei law i wahanu'r grawn a'r us. Bydd yn clirio'r llawr dyrnu, yn casglu'r gwenith i'w ysgubor ac yn llosgi'r us mewn tân sydd byth yn diffodd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae ei wyntyll yn barod yn ei law, i nithio'n ln yr hyn a ddyrnwyd, ac i gasglu'r grawn i'w ysgubor. Ond am yr us, bydd yn llosgi hwnnw thn anniffoddadwy."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn y mae ei nith‐raw yn ei law, i lwyr‐lanhâu ei lawr‐dyrnu: ac efe a gasgl yr ŷd i'w ysgubor, ond yr us a lwyr‐losga efe â thân anniffoddadwy.