Luke 3:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
mal ydd escriuenwyt yn llyuer ymadroddion Esaias y Prophwyt, yr hwn a ddywait, Llef vn yn llefain yn y diffeith vvch yvv, Arlwywch ffordd yr Arglwydd, vnionwch y lwybrae ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel yr ysgrifenwyd yn llyfr geiriau Eshaiah y prophwyd, “Llef un yn llefain Yn yr anialwch parottowch ffordd Iehofah, Gwnewch yn uniawn Ei lwybrau Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel yr ysgrifennwyd yn llyfr geiriau Eseia’r proffwyd: Llef un yn bloeddio yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch ei lwybrau ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr ymadroddion Eseias y proffwyd, yr hwn sydd yn dywedyd, Llef un yn llefain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch ei lwybrau ef yn union.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yn union fel mae'n dweud yn llyfr y proffwyd Eseia: “Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Paratowch y ffordd i'r Arglwydd ddod! Gwnewch y llwybrau'n syth iddo!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr geiriau'r proffwyd Eseia: "Llais un yn galw yn yr anialwch, 'Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch y llwybrau iddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y mae yn ysgrifenedig yn Llyfr Geiriau Esaiah y Proffwyd, Llef un yn llefain, Yn y Diffaethwch parotowch ffordd yr Arglwydd, Gwnewch ei lwybrau ef yn uniawn;