Luke 3:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pop glynn a gyflawnir, a’ phob mynyth a’ brynn a iselir, a’r caimion a wnair yn vnion, a’r llwybrae geirwon vyddant yn lyfnion,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pob pant a lenwir, a phob mynydd a bryn a ostyngir, A bydd y gŵyr-geimion yn uniawn, a’r geirwon yn ffyrdd gwastad;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pob cwm a lenwir, a phob mynydd a bryn a wastateir, a bydd y lleoedd gŵyrgam yn ffyrdd union, a’r ffyrdd geirwon yn llyfn;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pob pant a lenwir, a phob mynydd a bryn a ostyngir, a'r gŵyrgeimion a wneir yn union, a'r geirwon yn ffyrdd gwastad:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pob dyffryn yn cael ei lenwi, pob mynydd a bryn yn cael ei lefelu. Bydd y ffyrdd troellog yn cael eu gwneud yn syth, a'r lonydd anwastad yn cael eu gwneud yn llyfn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Caiff pob ceulan ei llenwi, a phob mynydd a bryn ei lefelu; gwneir y llwybrau troellog yn union, a'r ffyrdd garw yn llyfn;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pob ceunant a lenwir, A phob mynydd a bryn a ostyngir; Y gŵyr‐bethau ydynt i fod yn uniawn, A'r lleoedd geirwon i fod yn ffyrdd gwastad: