Luke 3:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y deuot ef wrth y popul oedd a ddaethent y’w betyddiaw y gant h aw, A genedlaethae gwiperoe dd, pwy ach rac rybuddiawdd i ffo ywrth y digo vain ar ddyuot?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd, gan hyny, wrth y torfeydd oedd yn dyfod allan i’w bedyddio ganddo, Eppil gwiberod, pwy a’ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly dywedai wrth y tyrfaoedd a âi allan i’w bedyddio ganddo, “Epil gwiberod, pwy a’ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny efe a ddywedodd wrth y bobl oedd yn dyfod i'w bedyddio ganddo, O genhedlaeth gwiberod, pwy a'ch rhagrybuddiodd chwi i ffoi oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Ioan yn dweud yn blaen wrth y tyrfaoedd oedd yn mynd allan ato i gael eu bedyddio ganddo: “Dych chi fel nythaid o nadroedd! Pwy sydd wedi'ch rhybuddio chi i ddianc rhag y gosb sy'n mynd i ddod?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedai wrth y tyrfaoedd oedd yn dod allan i'w bedyddio ganddo: "Chwi epil gwiberod, pwy a'ch rhybuddiodd i ffoi rhag y digofaint sydd i ddod?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny, efe a ddywedodd wrth y torfeydd sydd yn myned allan i'w bedyddio ganddo, O hiliogaeth gwiberod! Pwy a'ch rhybuddiodd chwi i ffoi oddiwrth y Digofaint sydd ar ddyfod?