Luke 3:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dygwch gan hyny ffrwythae teilwng i wellad‐buchedd, ac na ðechrewch dywedyt ynoch eich hunain, Y mae y ni Abraham yn dad ynny: can ys dywedaf ywch’, y gall Duw pe o’r main hyn godi plant i Abraham.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dygwch, gan hyny, ffrwythau teilwng o edifeirwch, ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Megis tad y mae genym Abraham, canys dywedaf wrthych, Abl yw Duw o’r cerrig hyn i godi plant i Abraham.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dygwch, ynteu, ffrwythau teilwng o’ch edifeirwch; ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, ‘Y mae gennym ni Abraham yn dad’; canys meddaf i chwi, fe ddichon Duw o’r cerrig hyn godi plant i Abraham.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch; ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw o'r cerrig hyn godi plant i Abraham.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid i chi ddangos yn y ffordd dych chi'n byw eich bod wedi newid go iawn. A pheidiwch meddwl eich bod chi'n saff drwy ddweud, ‘Abraham ydy'n tad ni.’ Gallai Duw droi'r cerrig yma sydd ar lawr yn blant i Abraham!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dygwch ffrwythau gan hynny a fydd yn deilwng o'ch edifeirwch. Peidiwch dechrau dweud wrthych eich hunain, 'Y mae gennym Abraham yn dad', oherwydd rwy'n dweud wrthych y gall Duw godi plant i Abraham o'r cerrig hyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dygwch gan hyny ffrwythau teilwng o'r Edifeirwch. Ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae genym ni Abraham yn Dâd: canys yr wyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw allan o'r meini hyn gyfodi plant i Abraham.