Luke 4:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy gorphen o’r diavol yr oll temptiat, yr ymadawodd ac ef dros amser.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi gorphen yr holl demtasiwn, diafol a ymadawodd ag Ef tan amser cyfaddas.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi i’r diafol orffen pob temtiad, ymadawodd ag ef hyd amser cyfaddas.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi i ddiafol orffen yr holl demtasiwn, efe a ymadawodd ag ef dros amser.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd y diafol wedi ceisio temtio Iesu bob ffordd bosib, gadawodd iddo nes i gyfle arall godi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ar l iddo ei demtio ym mhob modd, ymadawodd y diafol ag ef, gan aros ei gyfle.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi i'r Diafol orphen pob temtasiwn, efe a ymadawodd oddiwrtho ef hyd dymhor cyfaddas.