Luke 4:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys ef a ei dyscei yn y Synagogae wy, ac ef a anrydyðit gan bawp.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac Efe a ddysgai yn eu sunagogau, yn cael Ei ogoneddu gan bawb.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd ef yn dysgu yn eu synagogau hwy, a phawb yn ei anrhydeddu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd efe yn athrawiaethu yn eu synagogau hwynt, ac yn cael anrhydedd gan bawb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yn dysgu yn y synagogau, ac yn cael ei ganmol gan bawb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yn dysgu yn eu synagogau ac yn cael clod gan bawb.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd efe yn dysgu yn eu Synagogau hwynt, ac yn cael ei ganmol gan bawb.