Luke 4:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y rhoed ataw lyver y Prophwyt Esaias: a’ gwedy iddo agori ’r llyver, y ca f as e ’r man lle yr escrivenit,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a rhoddwyd Atto Lyfr y Prophwyd Eshaiah; ac wedi agor o Hono y llyfr, cafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhoed iddo lyfr y proffwyd Eseia, ac wedi agor y llyfr, fe gafodd y man lle’r oedd yn ysgrifenedig,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhodded ato lyfr y proffwyd Eseias. Ac wedi iddo agoryd y llyfr, efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Sgrôl proffwydoliaeth Eseia gafodd ei roi iddo, a dyma fe'n ei hagor, a dod o hyd i'r darn sy'n dweud:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddwyd iddo lyfr y proffwyd Eseia, ac agorodd y sgrl a chael y man lle'r oedd yn ysgrifenedig:
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhoddwyd iddo Lyfr y Proffwyd Esaiah: ac wedi iddo agoryd y Llyfr, efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig,