Luke 4:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yspryt yr Arglwydd, ys id arna vi, achos enneinawdd vi, val yr Evangelwn i’r tlodion: ef am anvones i, i iachau y briwedigion o galon, i precethu gellyngdawt i’r caith ion, ac er adweled igaeth ir daillion, er maddae o hanof i ryddit yr ei ysic,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
“Yspryd Iehofah sydd Arnaf, Canys enneiniodd fi i efengylu i dlodion; Danfonodd fi i gyhoeddi i gaethion ollyngdod, Ac i ddeillion gaffaeliad golwg,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf i, achos eneiniodd fi i fynegi newyddion da i dlodion, danfonodd fi i gyhoeddi i gaethion ryddhâd ac i ddeillion eu golwg, i ollwng rhai ysig yn rhydd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf fi, oherwydd iddo fy eneinio i; i bregethu i'r tlodion yr anfonodd fi, i iacháu'r drylliedig o galon, i bregethu gollyngdod i'r caethion, a chaffaeliad golwg i'r deillion, i ollwng y rhai ysig mewn rhydd-deb,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae Ysbryd yr Arglwydd arna i, oherwydd mae wedi fy eneinio i i gyhoeddi newyddion da i bobl dlawd. Mae wedi fy anfon i gyhoeddi fod y rhai sy'n gaeth i gael rhyddid, a pobl sy'n ddall i gael eu golwg yn ôl, a'r rhai sy'n cael eu cam-drin i ddianc o afael y gormeswr,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Y mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf, oherwydd iddo f'eneinio i bregethu'r newydd da i dlodion. Y mae wedi f'anfon i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion, ac adferiad golwg i ddeillion, i beri i'r gorthrymedig gerdded yn rhydd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yspryd yr Arglwydd sydd arnaf fi: O herwydd efe a'm heneiniodd i bregethu Efengyl i dlodion; Y mae wedi fy anfon i gyhoeddi rhyddhâd i gaethion Ac adferiad golwg i ddeillion; I ollwng ymaith mewn rhyddid y rhai oedd wedi tori eu calon,