Luke 4:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac oll a ddug e sont destoliaeth iddo, ac a ryveddesant am y gairiae rhad lavvn a ðaethesont o ei enae, ac a ddywetsōt, Any d hwn yw map Ioseph?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phawb a dystiolaethent Iddo, ac a ryfeddent wrth y geiriau grasusol oedd yn dyfod allan o’i enau; a dywedasant, Onid hwn yw mab Ioseph?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yn rhyfeddu at y geiriau o ras a ddeuai allan o’i enau ef, ac yn dywedyd, “Onid mab Ioseff yw hwn?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yr oeddynt yn rhyfeddu am y geiriau grasusol a ddeuai allan o'i enau ef. A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw mab Joseff?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pawb yn dweud pethau da amdano, ac yn rhyfeddu at y pethau gwych roedd yn eu dweud. “Onid mab Joseff ydy hwn?” medden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd pawb yn ei gymeradwyo ac yn rhyfeddu at y geiriau grasusol oedd yn dod o'i enau ef, gan ddweud, "Onid mab Joseff yw hwn?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yn rhyfeddu at y geiriau grasusol a ddeuent allan o'i enau ef; ac yr oeddynt yn dywedyd, Onid hwn yw Mab Joseph?