Luke 4:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyuot ef wrthynt, Dilys y dywedwch wrthyf y ddiereb hon, Y meðic, iacha dy hun: pa pethe pynac a glywsam ddarvot ei gwnaethy ’r yn‐Capernaum, gwna yma hefyt yn dy ’wlat dy hun.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrthynt, Yr oll o honoch a adroddwch Wrthyf y ddammeg hon, “Feddyg, iacha dy hun;” cymmaint ag a glywsom eu gwneuthur yn Caphernahwm, gwna hefyd yma yn Dy wlad Dy hun.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd wrthynt, “Eithaf tebyg y dywedwch wrthyf y ddihareb hon, ‘Y meddyg, iachâ dy hun; y pethau y clywsom eu gwneuthur yng Nghapernaum, gwna hefyd yma yn dy wlad dy hun’.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn hollol y dywedwch y ddihareb hon wrthyf, Y meddyg, iachâ di dy hun: y pethau a glywsom ni eu gwneuthur yng Nghapernaum, gwna yma hefyd yn dy wlad dy hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Mae'n siŵr y byddwch chi'n cyfeirio at yr hen ddywediad: ‘Iachâ dy hun, feddyg!’ hynny ydy, ‘y math o beth dŷn ni wedi ei glywed i ti eu gwneud yn Capernaum, gwna yma yn dy dref dy hun.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai wrthynt, "Diau yr adroddwch wrthyf y ddihareb, 'Feddyg, iach dy hun', a dweud, 'Yr holl bethau y clywsom iddynt ddigwydd yng Nghapernaum, gwna hwy yma hefyd ym mro dy febyd.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Er mwyn pob dim chwi a ddywedwch wrthyf y ddammeg hon, Feddyg, iachâ dy hun: pa bethau bynag y clywsom eu gwneuthur yn Capernaum, gwna yma hefyd yn dy wlâd dy hun.