Luke 4:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn‐gwirioneð y dywedaf ywch ’llawer o wrageð‐ g weddwn oedd yn‐dyddiae Elias yn yr Israel, pan gaywyd y nef dair blyneð a’ chwe ch mis, pan oedd newn mawr dros yr oll tir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Mewn gwirionedd y dywedaf wrthych, Llawer o wragedd gweddwon oedd, yn nyddiau Elias, yn yr Israel, pan gauwyd y nef dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr trwy’r holl dir,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Mewn gwirionedd meddaf i chwi, Yr oedd llawer o weddwon yn nyddiau Elïas yn Israel, pan gaewyd y nef am dair blynedd a chwe mis, pryd y bu newyn mawr dros yr holl dir;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi, Llawer o wragedd gweddwon oedd yn Israel yn nyddiau Eleias, pan gaewyd y nef dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr trwy'r holl dir;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gallwch fod yn reit siŵr fod llawer iawn o wragedd gweddwon yn Israel yn amser y proffwyd Elias. Wnaeth hi ddim glawio am dair blynedd a hanner ac roedd newyn trwm drwy'r wlad i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar fy ngwir rwy'n dweud wrthych, yr oedd llawer o wragedd gweddw yn Israel yn nyddiau Elias pan gaewyd y ffurfafen am dair blynedd a chwe mis, ac y bu newyn mawr ar yr holl wlad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi, Llawer o wragedd gweddwon oedd yn nyddiau Elias yn yr Israel, pan gauwyd y Nefoedd dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr dros yr holl dir: