Luke 4:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hefyd llawer gohangleifion oedd yn yr Israel yn amser Eliseus y Prophwyt: ac ny ’lanhawyt, yr vn o hanynt, dy either Naaman y Syriat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a llawer o wahan-gleifion oedd yn Israel yn amser Elisha y prophwyd, ac nid yr un o honynt a lanhawyd oddieithr Naaman y Tsuriad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd llawer o wahangleifion yn Israel yn amser Eliseus y proffwyd, ac nid yr un ohonynt hwy a lanhawyd, eithr Naiman y Syriad.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llawer o wahangleifion oedd yn Israel yn amser Eliseus y proffwyd; ac ni lanhawyd yr un ohonynt, ond Naaman y Syriad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac roedd llawer o bobl yn Israel yn dioddef o'r gwahanglwyf pan oedd y proffwyd Eliseus yn fyw. Ond Naaman o wlad Syria oedd yr unig un gafodd ei iacháu!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yr oedd llawer o wahangleifion yn Israel yn amser y proffwyd Eliseus, ac ni lanhawyd yr un ohonynt hwy, ond yn hytrach Naaman y Syriad."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A llawer o wahan‐gleifion oedd yn yr Israel, yn amser Elisëus y Proffwyd; ond ni lanhâwyd yr un o honynt, ond Naaman y Syriad.