Luke 4:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a godesont i vyny, ac y bwriesont ef y maes o’r dinas, a’ ei arwein yd ar vin bryn (ar yr hwn y daroeð adeiliat y dinas wy) y’w vwrw e i lawr bendro, mwnwgl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
wrth glywed y pethau hyn, ac wedi codi o honynt bwriasant Ef allan o’r ddinas, a dygasant Ef hyd ael y bryn ar yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu, i’w fwrw Ef bendramwnwgl i lawr:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a chodasant a bwriasant ef allan o’r ddinas, a’i ddwyn hyd ael y bryn yr adeiladesid eu dinas arno i’w fwrw dros y dibyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a godasant i fyny, ac a'i bwriasant ef allan o'r ddinas, ac a'i dygasant ef hyd ar ael y bryn yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno, ar fedr ei fwrw ef bendramwnwgl i lawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n codi ar eu traed a gyrru Iesu allan o'r dref i ben y bryn roedd y dre wedi ei hadeiladu arno. Roedden nhw'n bwriadu ei daflu dros y clogwyn,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
codasant, a bwriasant ef allan o'r dref a mynd ag ef hyd at ael y bryn yr oedd eu tref wedi ei hadeiladu arno, i'w luchio o'r clogwyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a godasant i fyny, ac a'i bwriasant ef allan o'r Ddinas, ac a'i harweiniasant ef hyd at ael y bryn, ar yr hwn yr oedd eu Dinas hwy wedi ei hadeiladu, fel y bwrient ef i lawr dros y dibyn.