Luke 4:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a ddeuth y weret i Capernaum, dinas yn Galiaea, ac yno y dyscawdd ef hwy ar y dyddiae Sabbath.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daeth i wared i Caphernahwm, dinas yn Galilea; ac yr oedd yn eu dysgu hwynt ar y Sabbath;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe ddaeth i lawr i Gapernaum, dinas yng Ngalilea. Ac yr oedd yn eu dysgu hwynt ar y Sabbath;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ddaeth i waered i Gapernaum, dinas yng Ngalilea: ac yr oedd yn eu dysgu hwynt ar y dyddiau Saboth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth i Capernaum, un o drefi Galilea, a dechrau dysgu'r bobl yno ar y Saboth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth i lawr i Gapernaum, tref yng Ngalilea, a bu'n dysgu'r bobl ar y Saboth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddaeth i waered i Capernaum, dinas yn Galilea: ac yr oedd efe yn eu dysgu hwy ar y Sabbathau: