Luke 4:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan ddywedyt, O c h beth ’sy i ni a wnelam a thi, tydi Iesu o Nazaret? a ddaethosti in colli ni? Mi wn pwy ’n wyt, ys ef Sanct y Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Och, pa beth sydd i ni a wnelom â Thi, Iesu y Natsaread? A ddaethost i’n difetha ni? Adwaenwn Di pwy ydwyt, Sanct Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“Och, beth sydd rhyngom ni a thi, Iesu o Nasareth? a ddaethost i’n difetha ni? Mi wn pwy wyt — Sant Duw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nasareth? a ddaethost ti i'n difetha ni? Myfi a'th adwaen pwy ydwyt; Sanct Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Aaaaar! Gad di lonydd i ni, Iesu o Nasareth. Rwyt ti yma i'n dinistrio ni. Dw i'n gwybod pwy wyt ti — Un Sanctaidd Duw!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Och, beth sydd a fynni di ni, Iesu o Nasareth? A wyt ti wedi dod i'n difetha ni? Mi wn pwy wyt ti Sanct Duw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ah! Pa beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nazareth? A ddaethost i'n dyfetha ni? Mi a'th adwaen di, pwy ydwyt; un Sanctaidd Duw.