Luke 4:35 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a ei ceryddawdd, gan ddywedyt, Ys taw, a’ dos allan o hanaw. Yno ’r cythrael gan ei davlu ef yn y cenol vvy, aeth allan o hanaw, ac ny wnaeth ddim niwed yddaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dwrdiodd yr Iesu Ef, gan ddywedyd, Distawa, a thyred allan o hono ef. Ac wedi ei daflu ef i’r canol, y cythraul a ddaeth allan o hono, heb wneuthur dim niweid iddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A cheryddodd yr Iesu ef, gan ddywedyd, “Taw, a dos allan ohono.” Ac wedi i’r cythraul ei daflu i’r canol, aeth allan ohono, heb wneuthur dim niwed iddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Distawa, a dos allan ohono. A'r cythraul, wedi ei daflu ef i'r canol, a aeth allan ohono, heb wneuthur dim niwed iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bydd ddistaw!” meddai Iesu'n ddig. “Tyrd allan ohono!” A dyma'r cythraul yn taflu'r dyn ar lawr o flaen pawb, yna daeth allan ohono heb wneud dim mwy o niwed iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ceryddodd Iesu ef 'r geiriau, "Taw, a dos allan ohono." Lluchiodd y cythraul y dyn i'w canol ac aeth allan ohono heb niweidio dim arno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Dystawa, a thyred allan o hono. A'r cythraul, wedi ei daflu ef i'r canol, a ddaeth allan o hono, heb wneuthur dim niwed iddo.