Luke 4:36 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e ddaeth of y n arnynt oll, ac ymadroddynt wrth ey gylydd, gan ddywedyt, Pa beth yw hyn? can ys trwy awdurdot, a meddiant y gorchymyn ef yr ysprytion bydron, ac vvy dd ant allan?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd aruthredd ar bawb, a chyd-lefarasant â’u gilydd gan ddywedyd, Pa beth yw’r gair hwn, canys gydag awdurdod a nerth y gorchymyn Efe i’r ysprydion aflan, a dyfod allan y maent?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth arswyd ar bawb, a siaradent â’i gilydd gan ddywedyd, “Pa fath lefaru yw hyn? canys gydag awdurdod a nerth y gorchymyn ef yr ysbrydion aflan, ac ânt allan.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A daeth braw arnynt oll: a chyd-ymddiddanasant â'i gilydd, gan ddywedyd, Pa ymadrodd yw hwn! gan ei fod ef trwy awdurdod a nerth yn gorchymyn yr ysbrydion aflan, a hwythau yn myned allan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pawb wedi cael sioc, ac yn gofyn, “Beth sy'n mynd ymlaen? Mae ganddo'r fath awdurdod! Mae hyd yn oed yn gallu gorfodi ysbrydion drwg i ufuddhau iddo a dod allan o bobl!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth pawb yn syn a dechreusant siarad 'i gilydd, gan ddweud, "Pa air yw hwn? Y mae ef yn gorchymyn yr ysbrydion aflan ag awdurdod ac nerth, ac y maent yn mynd allan."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A syndod a ddaeth ar bawb, a hwy a gyd-ymddiddanasant â'u gilydd, gan ddywedyd, Beth yw y Gair hwn? canys mewn awdurdod a gallu y mae efe yn gorchymyn i'r ysprydion aflan, ac y maent yn dyfod allan.