Luke 4:38 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a gyuodes i vyny, ac o’r Synagog yd aeth y mywn y duy Simon. A’ chwegr Simon oeð a’ haint‐gwres mawr arnei, ac vvy archesōt iðaw drostei.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi cyfodi o Hono o’r sunagog, aeth i mewn i dŷ Shimon; a chwegr Shimon oedd wedi ei dala gan gryd mawr; a gofynasant iddo drosti.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi cychwyn o’r synagog fe aeth i dŷ Simon; ac yr oedd chwegr Simon yn dioddef dan dwymyn dost, a deisyfasant arno drosti.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan gyfododd yr Iesu o'r synagog, efe a aeth i mewn i dŷ Simon. Ac yr oedd chwegr Simon yn glaf o gryd blin: a hwy a atolygasant arno drosti hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu'n gadael y synagog ac yn mynd i gartref Simon. Yno roedd mam-yng-nghyfraith Simon yn sâl iawn gyda gwres uchel. Dyma nhw'n gofyn i Iesu ei helpu hi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymadawodd Iesu 'r synagog ac aeth i du375? Simon. Yr oedd mam-yng-nghyfraith Simon yn dioddef dan dwymyn lem, a deisyfasant ar Iesu ar ei rhan.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan gyfododd efe o'r Synagog, efe a aeth i mewn i dŷ Simon. A chwegr Simon oedd yn dyoddef oddiwrth dwymyn galed, a hwy a atolygasant iddo drosti hi.