Luke 4:39 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y safawdd ef vch i phen, ac e geryðawdd yr haint‐gwres, a’ r haint y gadawdd hi: ac yn ebrwydd y cyfodes, a’i gweini hvvy a wnaeth hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan sefyll uwch ei phen hi, dwrdiodd y cryd, ac efe a’i gadawodd hi; ac wedi cyfodi o honi yn uniawn, gwasanaethodd arnynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe safodd uwch ei phen, a cheryddu’r dwymyn, a gadawodd y dwymyn hi; cododd hithau ar unwaith, a mynd i weini arnynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a safodd uwch ei phen hi, ac a geryddodd y cryd; a'r cryd a'i gadawodd hi: ac yn y fan hi a gyfododd, ac a wasanaethodd arnynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Plygodd Iesu drosti a gorchymyn i'r gwres i fynd, a diflannodd y tymheredd oedd ganddi yn y fan a'r lle! Yna dyma hi'n codi o'i gwely a gwneud pryd o fwyd iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Safodd ef uwch ei phen a cheryddu'r dwymyn, a gadawodd y dwymyn hi; ac ar unwaith cododd a dechrau gweini arnynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a safodd uwch ei phen hi, ac a geryddodd y dwymyn, a hi a'i gadawodd hi: ac yn y fan hi a gyfododd, ac a weinyddodd iddynt.