Luke 4:40 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy myned haul y ymochlyt, y savvl oll a’r oedd ganthynt gleifion o amryw haintiae, ei ducsont ataw, ac ef a ðodes ei ddwylo ar bop vn o han add ynt, ac y iachaodd hwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth fachludo o’r haul cymmaint ag oedd a chanddynt gleifion o amryw glefydau, a ddaethant â hwynt Atto Ef: ac Efe, gan roddi Ei ddwylaw ar bob un o honynt, a’u hiachaodd hwynt;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chyda machlud haul, pawb a chanddynt gleifion dan amrywiol anhwylderau a’u dug hwynt ato; yntau, gan osod ei ddwylo ar bob un ohonynt, a’u hiachâi hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan fachludodd yr haul, pawb a'r oedd ganddynt rai cleifion o amryw glefydau, a'u dygasant hwy ato ef; ac efe a roddes ei ddwylo ar bob un ohonynt, ac a'u hiachaodd hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl i'r haul fachlud roedd y Saboth drosodd, a daeth pobl at Iesu gyda'u perthnasau oedd yn dioddef o bob math o salwch. Roedd yn eu hiacháu drwy roi ei ddwylo ar bob un ohonyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ar fachlud haul, pawb oedd chleifion yn dioddef dan amrywiol afiechydon, daethant hwy ato; a gosododd yntau ei ddwylo ar bob un ohonynt a'u hiachu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r haul yn machlud, pawb a'r oedd ganddynt gleifion o amryw glefydau a'u dygasant ato ef; ac efe, gan roddi ei ddwylaw ar bob un o honynt, a'u hiachâodd hwynt.