Luke 4:41 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ chythraelieit hefyt a dd aeth allan o lawer oedd, gan lefain a’ dywedyt, Canys Ti yw’r Christ y Map Duw: ac ef y ceryddawdd hwy, ac ny adawdd yddyn ðywedyt y gwyddent mai efe oedd y Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dyfod allan yr oedd cythreuliaid, o laweroedd, dan waeddi a dywedyd, Ti yw Mab Duw; a chan eu dwrdio, ni adawai iddynt ddweud y gwyddent mai Efe oedd y Crist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac âi cythreuliaid hefyd allan o lawer, dan grochlefain a dywedyd, “Ti yw Mab Duw.” A cheryddodd hwynt, ac ni adai iddynt siarad, gan y gwyddent mai ef oedd y Crist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r cythreuliaid hefyd a aethant allan o lawer dan lefain a dywedyd, Ti yw Crist, Mab Duw. Ac efe a'u ceryddodd hwynt, ac ni adawai iddynt ddywedyd y gwyddent mai efe oedd y Crist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A daeth cythreuliaid allan o lawer o bobl hefyd. Roedden nhw'n gweiddi, “Mab Duw wyt ti!” am eu bod yn gwybod yn iawn mai Iesu oedd y Meseia, ond roedd yn gwrthod gadael iddyn nhw ddweud dim byd mwy.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd cythreuliaid yn ymadael llawer o bobl gan floeddio, "Mab Duw wyt ti." Ond eu ceryddu a wni ef, a gwahardd iddynt ddweud gair, am eu bod yn gwybod mai'r Meseia oedd ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chythreuliaid hefyd a aethant allan o lawer, gan waeddi allan, a dywedyd, Ti yw Mab Duw: ac efe a'u ceryddodd, ac ni chaniatâodd iddynt lefaru, canys hwy a wyddent mai efe ei hun oedd y Crist.