Luke 4:42 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan oedd hi yn ddydd, yr aeth e oyno y ymddaith i le diffaith, a’r popul oedd ai caisiawdd, ac a ddaethant ataw, ac y attaliesant ef rac myn e d ymaith y wrthynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan aethai hi yn ddydd, wedi myned allan yr aeth i le anial; a’r torfeydd a’i ceisiasant Ef, ac a ddaethant hyd Atto, ac a’i hattaliasant rhag myned oddi wrthynt; ond Efe a ddywedodd wrthynt,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddi ddyddio, fe aeth allan a myned i le anghyfannedd; a chwiliai’r tyrfaoedd amdano, a daethant hyd ato; a cheisient ei atal rhag mynd oddi wrthynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi ei myned hi yn ddydd, efe a aeth allan, ac a gychwynnodd i le diffaith: a'r bobloedd a'i ceisiasant ef; a hwy a ddaethant hyd ato, ac a'i hataliasant ef rhag myned ymaith oddi wrthynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth iddi wawrio y bore wedyn aeth Iesu i ffwrdd i le unig. Roedd tyrfaoedd o bobl yn edrych amdano, ac ar ôl ei gael dyma nhw'n ceisio ei stopio rhag mynd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth hi'n ddydd aeth allan a theithio i le unig. Yr oedd y tyrfaoedd yn chwilio amdano, a daethant hyd ato a cheisio'i rwystro rhag mynd ymaith oddi wrthynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddaeth yn ddydd, efe a ddaeth allan, ac a aeth i le anghyfanedd, a'r torfeydd oeddynt yn ei daer‐geisio ef, ac a ddaethant hyd ato, ac a fynent ei atal, fel nad elai efe oddiwrthynt.