Luke 4:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y cymerth diavol ef y vyny dd i vynyth tra vchel, ac a ddangosawð iddaw oll deyrnasoeð byd, yn llai no mynut awr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
“Nid ar fara yn unig y bydd byw dyn.” Ac wedi Ei ddwyn Ef i fynu, dangosodd Iddo holl deyrnasoedd y byd mewn munud o amser.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dug ef i fyny a dangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd ar amrantiad;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A diafol, wedi ei gymryd ef i fyny i fynydd uchel, a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y ddaear mewn munud awr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r diafol yn ei arwain i le uchel ac yn dangos holl wledydd y byd iddo mewn eiliad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna aeth y diafol ag ef i fyny a dangos iddo ar amrantiad holl deyrnasoedd y byd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a'i harweiniodd i fyny, ac a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd cyfaneddol mewn eiliad o amser: