Luke 4:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac eb y r diavol wrthaw, Iti y rhof yr oll veddiant hyn, a’ gogoniant y teyrnasoedd hyny: can ys y mi ei roddwyt: ac i bwy bynac yr ewyllyswyf, mi ei rhoddaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd diafol Wrtho, I Ti y rhoddaf yr awdurdod hon i gyd ac eu gogoniant; canys i mi eu traddodwyd, ac i bwy bynnag yr ewyllysiaf y rhoddaf hi;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dywedodd y diafol wrtho, “I ti y rhof yr awdurdod hwn oll, a’r gogoniant sydd eiddynt, canys i mi y traddodwyd ef, ac i’r neb y mynnwyf y rhoddaf ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A diafol a ddywedodd wrtho, I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll, a'u gogoniant hwynt: canys i mi y rhoddwyd; ac i bwy bynnag y mynnwyf y rhoddaf finnau hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac meddai'r diafol wrtho, “Gwna i adael i ti reoli'r rhain i gyd, a chael eu cyfoeth nhw hefyd. Mae'r cwbl wedi eu rhoi i mi, ac mae gen i hawl i'w rhoi nhw i bwy bynnag dw i'n ei ddewis.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywedodd wrtho, "I ti y rhof yr holl awdurdod ar y rhain a'u gogoniant hwy; oherwydd i mi y mae wedi ei draddodi, ac yr wyf yn ei roi i bwy bynnag a fynnaf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a'r Diafol a ddywedodd wrtho, I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll, a'u gogoniant hwynt: canys i mi y mae wedi ei throsglwyddo; ac i bwy bynag yr ewyllysiwyf, y rhoddaf hi.