Luke 4:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu ei atepawdd, ac a ddyuot, Ymdyn y wrthyf Satan: can ys ’scriuenwyt, Addoly yr Arglwyð dy Dduw, ac efe yn vnic a wasanethi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb iddo, dywedodd yr Iesu, Ysgrifenwyd, “I Iehofah dy Dduw yr ymochreini, ac Ef yn unig a wasanaethi.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yr Iesu iddo, “Y mae’n ysgrifenedig, ‘I’r Arglwydd dy Dduw yr ymgrymi, ac ef yn unig a wasanaethi’.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Dos ymaith, Satan, yn fy ôl i; canys ysgrifenedig yw, Addoli yr Arglwydd dy Dduw, ac ef yn unig a wasanaethi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Addola'r Arglwydd dy Dduw, a'i wasanaethu e yn unig.’ ”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu ef, "Y mae'n ysgrifenedig: 'Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho,, Y mae yn ysgrifenedig, Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, Ac efe yn unig a wasanaethi.