Luke 5:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac velly hefyd y daroedd i Iaco ac Ioan meibion Zebedeus, cym‐ddeithion i Simon. Yno ’r Iesu a ddyvot wrth Simon, Nag ofna: o hyn allan y byddy yn dal a dynion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’r un ffunud hefyd ar Iago ac Ioan, meibion Zebedëus, y rhai oeddynt gyfranogion â Shimon. Ac wrth Shimon y dywedodd yr Iesu, Nac ofna; o hyn allan, dynion a ddeli.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a’r un ffunud ar Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, a oedd yn gyfranogion â Simon. A dywedodd Iesu wrth Simon, “Paid ag ofni; o hyn allan, ti fyddi’n dal dynion.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r un ffunud ar Iago ac Ioan hefyd, meibion Sebedeus, y rhai oedd gyfranogion â Simon. A dywedodd yr Iesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan y deli ddynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac felly hefyd partneriaid Simon — Iago ac Ioan, meibion Sebedeus. Dyma Iesu'n dweud wrth Simon, “Paid bod ofn; o hyn ymlaen byddi di'n dal pobl yn lle pysgod.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a'r un modd Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, a oedd yn bartneriaid i Simon. Ac meddai Iesu wrth Simon, "Paid ag ofni; o hyn allan dal dynion y byddi di."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a'r un modd hefyd Iago ac Ioan, meibion Zebedëus, y rhai oeddynt gyd‐gyfranogion â Simon. A dywedodd yr Iesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan ti a fyddi yn dala dynion.